Jump to ratings and reviews
Rate this book

Gladiatrix

Rate this book

264 pages, Paperback

Published August 1, 2023

2 people are currently reading
10 people want to read

About the author

Bethan Gwanas

73 books49 followers
Writes lively, entertaining Welsh language books for adults, Welsh learners, YA and children. One book in English so far: 'Ramboy' for 9+.

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
17 (51%)
4 stars
9 (27%)
3 stars
7 (21%)
2 stars
0 (0%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 7 of 7 reviews
40 reviews2 followers
August 28, 2023
Efo teitl fel 'Gladiatrix' a llun clawr o gladiator benywaidd yn gwisgo arfwisg mewn storm yn y nos ar y môr, dach chi'n disgwyl cyffro o lyfr. Ac mae Bethan Gwanas yn darparu hynny yn llawn yn y nofel ragorol hon (sydd wedi'i hysgrifennu yn Gymraeg.) Mae'r stori'n dechrau efo'n harwres 17 oed, Rhiannon, yn plymio i mewn i afon gynddeiriog i achub dyn ifanc a'i geffyl rhag boddi. Mae'r ddrama jyst yn tyfu oddi yno. Gosodir y llyfr yn y ganrif gyntaf OC pan oedd lluoedd Rhufeinig yn ceisio amsugno Cymru i'r ymerodraeth Rufeinig. Er mai ffuglen ydyw, mae'n seiliedig mewn ffaith hanesyddol. Roedd 'na frwydr enfawr yn Ynys Môn, pan gafodd llwythau Gogledd Cymru a'u harweinwyr derwyddol eu gwasgu gan y lluoedd Rhufeinig. Yn y stori hon, mae Rhiannon a'i chwaer, Heledd, ymhlith yr ychydig oroeswyr. Maen nhw'n cael eu cymryd i Rufain i gael eu hyfforddi fel gladiatoriaid ac mae eu hantur go iawn yn dechrau. Ro'n i wrth fy modd â'r llyfr hwn. Blaenoriaeth Bethan Gwanas ydy'r stori bob amser. Ond yn y cefndir, mae'n creu byd cyfoethog ac argyhoeddiadol i'r bobl hyn y mae eu bywydau wedi'u plethu mor agos â natur a'r duwiau hynafol. Dydy Rhiannon, Heledd a'r lleill byth yn ymddangos yn llai na real. Mae'r iaith yn hygyrch. Dw i'n ddysgwr Cymraeg felly mae darllen llyfr fel hyn yn her. Mae'n wir fod angen geiriadur wrth fy ochr i (am ryw reswm, dydy fy nghwrs Cymraeg ddim wedi cynnwys geiriau fel 'gwaywffon' ac 'perfedd'!) Ond mae'r patrymau iaith yn y llyfr yn syml a chlir a doedd hi ddim yn broblem i mi ddilyn y stori. A'r mwynhad pur a gefais o ddarllen 'Gladiatrix' oedd digon o iawndal am unrhyw anawsterau yr oeddwn yn eu hwynebu. Felly, mae'r llyfr hwn yn cael ei argymell yn fawr. (Ac mae'r darlun clawr gan yr artist Cymreig, Teresa Jenellen, yn fuddugoliaeth.)

With a title like ‘Gladiatrix’ and a cover picture of a female gladiator all armoured up in a storm at night at sea, you expect excitement from a book. And Bethan Gwanas provides that in full measure in this stirring novel (which is written in Welsh.) The story starts with our 17 year old heroine, Rhiannon, diving into a raging river to rescue a young man and his horse from drowning. The drama just grows from there. The book is set in the first century AD when Roman forces were trying to absorb Wales into the Roman empire. Although it is fiction, it is based in historical fact. There was a huge battle in Anglesey, when the tribes of North Wales and their druid leaders were crushed by the Roman forces. In this story, Rhiannon and her sister are among the few survivors. They are taken to Rome to be trained as gladiators and their real adventure begins. I loved this book. The story is always Bethan Gwanas’s priority. But in the background, she creates a rich and convincing world for these people whose lives are so closely entwined with nature and the ancient gods. Rhiannon, Heledd and the others never seem less than real. The language is accessible. I’m a Welsh learner so reading a book like this is a challenge. It’s true that I needed a dictionary by my side (for some reason, my Welsh course hasn’t covered words like ‘javelins’ and ‘entrails’!) But the language patterns in the book are simple and clear and it wasn’t a problem for me to follow the story. And the sheer enjoyment I got from reading the story was ample recompense for any difficulties that I faced. So this book is highly recommended. (And the cover illustration by Welsh artist, Teresa Jenellen, is a triumph.)
390 reviews
November 26, 2023
Gwych! Nofel llawn cyffro ac emosiwn o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r stori yn carlamu ymlaen o un bennod i’r llall mewn arddull mor hawdd i’w darllen. Hollol gredadwy hefyd, ar waethaf yr holl erchyllterau. Oes na awgrym o ddilyniant?????? Gobeithio wir.
63 reviews1 follower
November 9, 2023
Darllenadwy iawn - ac yn addysg am gyfnod na wn i lawer amdano. Er y dylswn i!
Profile Image for Rebecca Roberts.
Author 11 books19 followers
October 26, 2023
Stori am ddwy chwaer, Rhiannon a Heledd, ydi Gladiatrix - stori sy’n ein tywys ni o Ynys Môn dan reolaeth derwyddon yr Orddwig i Rufain a Halicarnassarus yn Nhwrci. Ar ôl i fyddin Rufeinig dan arweiniad Suetonius Paulinus lladd gweddill eu llwyth, mae’r milwyr yn atal dienyddio Heledd a Rhiannon oherwydd eu dewrder wrth ymladd. Nid marw ar faes y gad yw eu tynged, ond cael eu hyfforddi i fod yn gladiatrix a brwydro am eu bywydau o flaen gynulleidfa’r amffitheatr.
Dydw i ddim yn un am grynhoi plot straeon mewn adolygiadau, felly wna i fodloni ar ddweud bod y plot, fel ymhob stori gan Bethan Gwanas, yn dynn ac mae pob pennod yn llawn emosiwn a chyffro a thensiwn. Wnes i lowcio’r llyfr - unwaith ti ddechrau darllen mae’n anodd ei roi i un ochr. Wnes i grio a dyrnu’r awyr sawl tro. Mae’r prif gymeriadau’n unigryw ac yn fyw, ac ro’n i wirioneddol yn drist ar farwolaeth sawl un. (Dim spoilers gen i - bydd yn rhaid darllen i weld pwy sy’n goroesi a phwy sy’n diweddu efo tryfer trwy ei g/chalon!). Mae’n nofel hanesyddol, a wnes i wir fwynhau’r ffordd wnaeth Gwanas llwyddo i blethu hanes rhai o bobl bwysicaf y cyfnod - Suetonious, Buddug, Caradog, Spartacus - i’r naratif ac i bortreadu bywyd beunyddiol Ynys Môn a Rhufain heb arafu gormod ar y plot. Yn amlwg, mae hi wedi gwneud ei gwaith ymchwil yn drylwyr iawn, a wnaeth ffrwyth ei dychymig (gan nad oes cofnodion ysgrifenedig gan y derwyddon) argyhoeddi. Mae’r arddull yn apelio i’w synhwyrau ac ar brydiau teimlais fy mod i’n sefyll ochr yn ochr â’r cymeriadau.
Er erchylltra’r cyfnod, er tristwch y cymeriadau wrth iddyn nhw orfod gwylio’u teulu a’u cyfoedion yn marw fesul un, nid yw’n nofel ddwys na phrudd. Mae’n nofel am chwaeroliaeth a dysgu sut i faddau a goroesi. Os nad ydi’n amlwg erbyn rŵan, ro’n i wrth fy modd. Anhygoel, Gwanas - yn fy marn i, dyma ydi dy nofel orau hyd yn hyn.


3 reviews1 follower
October 23, 2024
Nid y math o lyfr bydden i arfer darllen ond roedd hwn yn rhwydd, stori dda a chipolwg mewn i fywyd yng nghyfnod y Rhufeiniaid (efallai).
22 reviews
February 3, 2024
Gladiatrix (Welsh Edition)

I quite enjoyed this book. It recounts the history of the Roman army's attack of Anglesey and the subsequent journey to Rome of the captives which included two sisters. The sisters are trained to become gladiators.
Displaying 1 - 7 of 7 reviews

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.