Golwg ar groes Crist, canolbwynt y neges Gristnogol, a phrif destun llawenydd a moliant y Cristion. Ers degawdau bu troi cefn gan lawer ar eglurhad y Beibl am groes Crist, gan ei disbyddu o ganlyniad o'i hystyr iawnol ac achubol. Nid oes dim pwysicach, felly, na chael golwg eto ar y dystiolaeth feiblaidd ac apostolaidd am y groes.