Wedi mwynhau hon yn arw a chwerthin yn uchel wrth ei darllen. Adnabyddiaeth wych o awyrgylch ysgolion a phrofiad ymweliad arolygwyr gan roi chwyddwydr ar yr hyn sy’n bwysig. Hoff iawn o’r defnydd o Abertawe fel cefnlen i’r nofel a’r defnydd o dafodiaith. (Efallai nad oedd angen yr olygfa ger y ffordd tua dechrau’r nofel). Melys, moes, mwy gan yr awdur hwn gobeithio.